Diogelu

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan bwysig mewn darparu gwasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Yng nghyfraith y DU, mae rhywun yn blentyn nes ei fod yn troi’n 18 oed. Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau a’r gweithgareddau mae eich grŵp yn eu cynnig mor ddiogel â phosib, ac i sicrhau hyn, rhaid wrth fesurau diogelu yn eu lle.         

Bydd sefydlu mesurau diogelu o help i’ch grŵp warchod plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed a cham-drin, yn ogystal â helpu staff a gwirfoddolwyr i wybod beth i’w wneud os ydynt yn poeni neu’n bryderus am blentyn neu oedolyn.

Hefyd, byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, ac os gwelwch unrhyw arwyddion o gwbl sy'n gwneud ichi feddwl y gallent fod yn profi unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod, adroddwch eich pryderon.

I riportio plentyn sydd mewn perygl:

  •  Ffoniwch 01492 575111 yn ystod oriau swyddfa
  •  Ffoniwch 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall
  •  Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i  Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

I riportio oedolyn sydd mewn perygl:

  •  Ffoniwch 0300 456 1111 yn ystod oriau swyddfa
  •  Ffoniwch 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall
  •  Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Ar y dudalen hon

Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: Cod ymarfer diogelu

Mae hwn yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau diogelu. Disgwylir i unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau ddilyn y cyngor hwn.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi arweiniad i ymarferwyr sy'n ymwneud â diogelu ar sut y dylid gwneud pethau. Mae modd lawrlwytho'r gweithdrefnau i'ch ffôn symudol. Mae dolenni i lawrlwytho'r ap ar waelod hafan y wefan drwy'r ddolen isod. Ar ôl ichi lawrlwytho'r ap, ni fydd angen cysylltiad Wi-Fi arnoch i ddarllen y gweithdrefnau.

Dyletswyddau Diogelu Ymddiriedolwyr

Dylai amddiffyn pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth lywodraethu i bob elusen. Mae'r canlynol yn ddolen i ganllaw a fydd yn cefnogi ymddiriedolwyr i roi systemau ar waith a fydd yn amddiffyn pawb sy'n dod i gysylltiad â'u sefydliad.

Canllaw 5 munud y Comisiwn Elusennau “Diogelu i elusennau ac ymddiriedolwyr”

Mae’r canllaw byr a hygyrch hwn yn tynnu sylw at eich cyfrifoldebau chi i gadw pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch elusen yn ddiogel rhag niwed: mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr, staff a buddiolwyr.

Yn anffodus does dim fideo ar gael yn y Gymraeg Safeguarding for charities and trustees - YouTube

Diogelwch ar y Rhyngrwyd

Nod ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus Stop it Now yw mynd i’r afael â gwylio a rhannu cynyddol ar luniau anghyfreithlon o blant.        

Mae gwefan yr ymgyrch yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth i helpu pobl i atal gwylio a rhannu lluniau rhywiol, ac i gefnogi teuluoedd a ffrindiau pobl sy’n edrych ar luniau rhywiol o blant.              

Byrddau Diogelu Gogledd Cymru

Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Mae’r Bwrdd yn gyffredinol gyfrifol am herio asiantaethau perthnasol yn yr ardal honno er mwyn sicrhau’r canlynol: 

  • Bod mesurau effeithiol yn eu lle i WARCHOD plant          
  • Bod cynlluniau effeithiol ar waith i gydweithredu rhwng asiantaethau a chyflwyno gwasanaethau gwarchod a rhannu gwybodaeth
  • Rhagweld ac adnabod lle mae unigolion wedi’u heffeithio a gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i ddatblygu gwasanaethau adnabod ac atal cynharach             
  • Hybu gwasanaethau cefnogi amlasiantaeth effeithiol
  • Hybu dulliau rhyngasiantaeth o weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lle mae poblogaethau’n wynebu risg o niwed               
  • Defnyddio hyfforddiant rhyngasiantaeth a dosbarthu dysgu ac ymchwil er mwyn helpu i greu gweithlu amlasiantaeth mwy hyderus a gwybodus

Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru

Dyma amcanion y Bwrdd Diogelu Oedolion:

  • Gwarchod oedolion ei ardal sydd angen gofal a chefnogaeth (os yw’r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio) ac sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu mewn perygl o hynny
  • Atal yr oedolion hynny yn ei ardal rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso

Byddwch yn Ddiogel Ar-lein

Mae Get Safe Online a CIFAS - prif wasanaeth atal twyll y DU - wedi dod at ei gilydd i ddatblygu cyfleuster gwirio gwefan newydd.  Mae'r offeryn yn cynnal nifer o wiriadau i weld a yw gwefan yn debygol o fod yn gyfreithlon ai peidio.

Gellir dod o hyd iddo yma: https://check.getsafeonline.org

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397