Gyda buddsoddiad hirdymor o £19 miliwn, dros oes y fferm wynt, mae Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr (GYM) yn helpu cymunedau arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gyflawni pethau anhygoel.
Mae'r gronfa'n hyblyg iawn fel ei bod yn gallu diwallu gwahanol anghenion ac uchelgeisiau cymunedau ar draws yr ardal arfordirol. Mae'n canolbwyntio ar y themâu canlynol:
Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) mewn cydweithrediad â Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal sy’n elwa o’r gronfa.
Nod y wefan hon yw ateb eich cwestiynau chi am y gronfa, ond os oes gennych chi gwestiynau o hyd, cofiwch gysylltu â ni.
Fferm Wynt ar y Môr GYM, wedi’i lleoli oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yw ail fferm wynt fwyaf y byd. Mae gan y fferm wynt arloesol hon y potensial i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru anghenion blynyddol cyfatebol tua 400,000 o aelwydydd cyffredin yn y DU. Mae'n cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o fwy na £2 biliwn, sy’n cael ei rannu ar hyn o bryd rhwng RWE (50%), Stadwerke München GmBH (30%), Macquarie Infrastructure ac Asedau Real (20%) .
MAES BUDD
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG