Amdanom ni

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yw’r corff ymbarél a sefydlwyd i ddatblygu a hyrwyddo gweithredu cymunedol a gwirfoddol yn sir Conwy. Mae'n eistedd gyda chorff cenedlaethol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac maen yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW). 

Cliciwch yma i gael mynediad i Hwb Gwybodaeth newydd TSSW. Mae'r Hwb Gwybodaeth yma'n rhoi mynediad hawdd i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru at amrywiaeth o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein. (byddwn yn diweddaru'r dolenni yn ein gwefan i adlewyrchu'r adnoddau newydd yma)

Datganiad Cenhadaeth

Nod CGGC yw cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Yn arbennig hyrwyddo addysg, amddiffyn iechyd a helpu gyda thlodi, trallod a salwch.

Mae CGGC yn dod â chynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol a statudol ynghyd i weithio mewn partneriaeth er lles trigolion y sir.

Amcanion

Cefnogi datblygu prosiectau newydd sy’n gwella gweithredu cymunedol a gwirfoddol.

Bod yn sianel effeithiol rhwng asiantaethau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yng Nghonwy.

Dyma ein datganiad effaith diweddaraf sy’n cynnig blas o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Cynrychiolaeth

Mae CGGC yn cynrychioli’r Trydydd Sector mewn cyfarfodydd fel rhai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Pwyllgor Partneriaeth Trydydd Sector, Cyfamod Lluoedd Arfog Conwy a Chompact Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru.

Edrych ar ein hadroddiadau effaith yma:

Gyflogwr Cyflog Byw

Mae’n bleser cael ymuno â’r mudiad o filoedd o sefydliadau, busnesau a phobl ledled y DU sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog diwrnod teg. Gyda’n gilydd gallwn ddal ati i sicrhau bod pawb yn gallu ennill digon o arian i fyw arno.

Aelodaeth

Mae CGGC yn gorff aelodaeth ac yn gallu cefnogi’r Trydydd Sector mewn sawl ffordd wahanol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Cadeirydd: Mary Trinder

Is-gadeirydd: Joanna Tann

Ymddiriedolwyr

Christine Humphreys

Sue Milburn

Mike Priestley

Maggie Kelly

Liz Roberts

Brian Watson

Denise Fisher

Cynrychiolydd Statudol

Y Cynghorydd Cathy Augustine (cynrychiolydd o’r Awdurdod Lleol)

Trefnau gweithredu ynglyn â Sylwadau, Canmoliaeth & Chwynion

Fel sefydliad, mae Cefnogaeth a Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon i gymunedau a grwpiau lleol ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Mae CGGC wedi ymroi’n llwyr i ymgynghori â, a gwrando ar, y bobl maent yn eu gwasanaethu.  Fel prawf gweladwy o’r ymroddiad hwn ‘rydym yn annog holl ddefnyddwyr ein gwasanaeth i fynegi eu sylwadau ar amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu.  Yn eu tro, mae CGGC yn croesawu sylwadau o’r fath gan eu bod yn rhoi darlun gwerthfawr o berfformiad y sefydliad.

Cliciwch yma am Trefnau gweithredu ynglyn â Sylwadau, Canmoliaeth & Chwynion

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397