Datblygu, cefnogi a hyrwyddo gweithredu gwirfoddol a chymunedol yn Sir Conwy.
Mae Loto Lwcus yma!!
Ydych chi wedi clywed am Loto Lwcus? Dyma eich loteri codi arian cymunedol ar gyfer achosion da lleol i godi arian hanfodol i gefnogi eu gwaith gwerthfawr yng Nghonwy.
Gall achosion da lleol wneud cais i gael eu gwefan loteri eu hunain a chael llu o ddeunyddiau marchnata i'w cefnogi yn eu hymgais i godi arian. Mae'n gyflym iawn ac yn hawdd cofrestru ac yn bwysicach na hynny, mae'n RHAD AC AM DDIM!
Oes gennych chi blant mewn ysgol neu glwb a allai ddefnyddio’r loteri? Ydych chi'n rhan o glwb neu gymdeithas eich hun neu efallai eich bod yn gwybod am elusen a allai fod yn chwilio am atebion codi arian mwy dibynadwy? Os felly, dywedwch wrthyn nhw am Loto Lwcus a gofynnwch iddyn nhw gysylltu os ydyn nhw eisiau gwybod mwy!
Diweddariad aelodaeth
Yn ystod y cyfnod digynsail a heriol yma, mae CGGC yma o hyd i’ch cefnogi chi a’ch sefydliad yn llawn. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn ildio ein ffioedd aelodaeth ar gyfer 2020/21 i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn ein gwybodaeth aelodaeth flaenoriaeth, a'r cyfarwyddyd a’r cyfleoedd cyllido, yn gwbl hwylus.