Croeso i Loto Lwcus
Crëwyd Loto Lwcus yn 2021 gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy.
Sefydlwyd Loto Lwcus i gefnogi prosiectau cymunedol yn yr ardal leol, ac mae’n gweithredu ar yr egwyddor o godi arian o fewn y gymuned ar gyfer y gymuned. Rydyn ni’n grymuso achosion da lleol i godi arian mewn ffordd sy’n hwyl ac yn effeithiol.
Mewn amser pan mae cyllidebau’n lleihau ac mae angen y gymuned yn cynyddu, mae Loto Lwcus yn galluogi pobl i gefnogi’r achosion sydd o’r pwys mwyaf iddyn nhw, gan helpu achosion da i gysylltu â’u cefnogwyr.
Mae tocyn ar gyfer Loto Lwcus yn costio £1 yr wythnos a bydd 60c yn mynd yn syth i achosion da!
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG