Newyddion Ymddeol - Jan Smith
Gydag emosiynau cymysg iawn, rydw i'n ysgrifennu’r darn yma i roi gwybod i chi i gyd fy mod i’n ymddeol o CGGC yn fuan, gyda fy niwrnod gwaith olaf i ar ddydd Gwener 19eg Ebrill. Mae hyn ar ôl cyfnod hir a hapus o fwy na 26 mlynedd yn gweithio yma, gyda fy niwrnod cyntaf i ar 1af Medi 1997, a dweud y gwir, lansiad y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol newydd sbon yn sir newydd Conwy.
Ers hynny, mae cymaint wedi digwydd ac wedi newid, gan gynnwys y canlynol –
- Datblygu a darparu gwasanaethau digidol
Prosiectau niferus, ond pob un yn cefnogi'r 3ydd Sector yn uniongyrchol, ac, yn ei dro, ein dinasyddion mwyaf agored i niwed ni yn aml
- Tîm grantiau effeithiol gyda’r gefnogaeth diwydrwydd dyladwy sylfaenol yn cynyddu gallu a chryfder yn y Sector
- Dod yn un o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol sy'n perfformio orau yng Nghymru
Rydw i wedi cyfarfod â chymaint o bobl anhygoel, dawnus ac ymroddedig dros y blynyddoedd – staff, gwirfoddolwyr, Ymddiriedolwyr, ac mae bob amser wedi fy nghalonogi i o weld caredigrwydd, diwydrwydd a gofal yn rheoli. Diolchaf i chi i gyd am eich croeso, eich esiampl, eich cyfeillgarwch, ac am wneud fy amser i yn CGGC yn brofiad mor wych.
Yn ei dro, rydw i mor falch o weld Tîm presennol CGGC yn ehangu ac yn gallu parhau â'r holl waith da – ymlaen y bo’r nod yn sicr! Felly rydw i'n gadael yn hyderus am y dyfodol gwych sydd i ddod i CGGC.
Anfonaf fy nymuniadau gorau a diolch o galon i chi i gyd, a gobeithio y bydd ein llwybrau ni’n parhau i groesi ar ryw ffurf neu’i gilydd…
Jan Smith
Dirprwy Brif Swyddog