Cymorth i sefydliadau – recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr

Cofrestrwch eich cyfle gwirfoddoli/swydd wag gyda ni!

Gall Gwirfoddoli CGGC helpu eich sefydliad i recriwtio gwirfoddolwyr.  Ar hyn o bryd, mae dros 100 o sefydliadau gwirfoddol wedi cofrestru eu cyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, fel y gallwn eu cefnogi i recriwtio gwirfoddolwyr addas.

Sut mae’n gweithio? Os ydych yn cofrestru eich cyfle gwirfoddoli gyda ni byddwn yn;

Hyrwyddo eich swydd wag gwirfoddol yn ystod apwyntiadau un i un wedi’u teilwra gyda darpar wirfoddolwr sy’n chwilio am leoliad addas

  • Hysbysebu eich cyfle ar wefan Gwirfoddoli Cymru (www.volunteering-wales.net)

  • Hysbysebu eich cyfle yn y papur newydd lleol

  • Arddangos gwybodaeth am y cyfle

  • Darparu cyfarwyddyd ar arfer da
Datblygwyd y Côd Ymarfer er mwyn helpu unrhyw un sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr i sicrhau ei fod yn gwneud hynny o fewn fframwaith ymarfer da.
Anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. er mwyn gofyn am gopi caled.

Ydych chi’n falch o’r ffordd yr ydych yn trin eich gwirfoddolwyr? Fyddech chi’n dymuno i’ch arferion da gael eu cydnabod? Fyddech chi’n hoffi gwiriad o’ch gweithdrefnau ar gyfer gwirfoddolwyr? Yna ceisiwch am Farc Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae’r Dyfarniad yn cydnabod ymrwymiad mudiadau i wirfoddoli o’r safon uchaf ar draws y DG. Mae’r asesiad yn rhoi sylw i 4 maes;

  • Cynllunio Cyfraniad Gwirfoddolwyr
  • Recriwtio Gwirfoddolwyr
  • Dethol a Chydweddu Gwirfoddolwyr
  • Chefnogi a Chadw Gwirfoddolwyr

Mae defnyddiau arweiniol, gwybodaeth a chyngor ar gael ar wefan IiV, yn ogystal ag aseswr penodedig. Cofiwch, bydd meddu ar y Dyfarniad yn arwydd i gyllidwyr posib, bod gennych fudiad sy’n cael ei redeg mewn modd proffesiynol ac eich bod o ddifri ynghylch cyfraniad gwirfoddolwyr. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwirfoddoli CVSC (01492) 534091

  • Eich cefnogi chi i gynnwys Gwirfoddolwyr Ifanc

Cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr

Pecyn Adnoddau Cynnwys Ymddiriedolwyr Ifanc

Rhan o’n rôl yw gwneud yn siŵr bod gan eich sefydliad y polisïau a’r gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu eich sefydliad a’r gwirfoddolwr. Darllenwch y taflenni gwybodaeth isod neu gysylltu â ni am ragor o wybodaeth Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cliciwch yma i gael mynediad at Taflenni Gwybodaeth TSSW

Mae’r polisïau enghreifftiol isod yn tynnu sylw at arferion gorau wrth weithio gyda gwirfoddolwyr. Gallwch eu haddasu ar gyfer eich sefydliad a’ch diben eich hun.

Cliciwch yma i fynd atynt o wefan WCVA. Maent yn cynnwys

  • Polisi gwirfoddoli enghreifftiol
  • Cytundeb gwirfoddolwyr
  • Polisi cwynion enghreifftiol
  • Polisi treuliau enghreifftiol
  • Rôl ddisgrifiad enghreifftiol
  • Canllawiau goruchwylio enghreifftiol
  • Canllawiau ar ddiogelwch ar gyfer ymweliadau â chartrefi
  • Polisi recriwtio cyn-droseddwyr enghreifftiol
  • Polisi enghreifftiol ar ddiogelu
  • Enghraifft o ffurflen asesu risg
  • Datblygu strategaeth gwirfoddoli gryno
 
 
 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397