Darpariaeth Gwasanaeth Dwyieithog
Gall eich sefydliad elwa o weithio’n ddwyieithog:
- Hybu cydraddoldeb a chael eich adnabod fel esiampl arfer da
- Cynyddu eich proffil cyhoeddus
- Ehangu cefnogaeth ariannol ac ymarferol i’ch gwaith
- Cryfhau eich apêl i wirfoddolwyr a staff dwyiethog
- Cynnig gwasanaethau a gweithgareddau mwy effeithiol i siaradwyr Cymraeg
Mae yna help a chefnogaeth ar gael:
Hoffwn dynnu eich sylw at wasanaeth Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer sefydliadau trydydd sector a sector preifat.
www.comisiynyddygymraeg.org/hybu
Menter Iaith Conwy
Mudiadau lleol yw Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer, ac yn adlewyrchu awydd pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith.
Cysylltwch:
Y Sgwâr, Llanrwst, LL26 0LD
Ffôn: (01492) 642357
Ebost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Wefan: https://miconwy.cymru/
For community translation services please contact Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Helo Blod
Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.
Fel arall, gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes
https://businesswales.gov.wales/heloblod/cy/helo-blod