Yn Ebrill 2022 dyranwyd £15,380.00 i Urdd Gobaith Cymru ar gyfer eu prosiect Gerddi Clocaenog – Yr Arddorfa yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbbych 2022.
Bwriad y prosiect oedd datblygu ardal newydd a chyffrous drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc a chydweithio gyda phartneriaid yn ardal Clocaenog ac ar faes Eisteddfod yr Urdd. Gyda arian cronfa Clocaenog llwyddwyd i gynnal gweithdai garddio ar faes yr Eisteddfod, ac yn y gymuned gydag artistiaid profiadol yn arwain. Plethwyd yr holl waith at ei gilydd er mwyn llwyfannu ardal unigryw o ansawdd uchel ar faes Eisteddfod yr Urdd 2022.
Yr ysgolion a weithiodd ar y prosiect hwn gyda’r Urdd yw Ysgolion Brynhyfryd, Carreg Emlyn, Bro Cinmeirch, Plas Brondyffryn ac Adran Caenog
Cafwyd oddeutu 280 o blant yr ardal y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai yn y gymuned i ddysgu am arddio a’u ecoleg leol drwy’r celfyddydau. Yn ogystal cafwyd gweithdy cyfansoddi cerddoriaeth gyda 10 o blant o Ysgol Plas Brondyffryn.
Yn rhan o’r prosiect hefyd roedd gwirfoddolwyr o’r gymdeithas arddio leol, Dinbych yn Blodeuo yn rhoi help llaw. Buont yn allweddol fel rhan o’r gweithdai adeiladol o greu’r ardd gyda Sioned Edwards, ac yna cadw trefn ar yr ardd, yn dyfrio a thacluso yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac yn ailblannu’r gerddi yn y gymuned yn dilyn wythnos yr ŵyl.
Llwyddwyd i ddenu 118,000 o ymwelwyr i Faes yr Eisteddfod 2022, ac maent yn amcangyfrif bod canran uchel iawn o’r ymwelwyr wedi ymweld a chael profiad rhyngweithiol o’r gerddi.
Roedd cynnwys yr elfen naturiol ag organig yma ar faes yr Eisteddfod yn 2022, am y tro cyntaf, yn rhan o’r datblygiadau o greu'r ymdeimlad o ŵyl eco cyfeillgar ar y maes. Roedd pobl ifanc yr ardal yn ran greiddiol o’r syniadau a’r datblygiad pwysig hwn. Mae arian Clocaenog wedi sicrhau eu bod wedi cael profiad o greu ardal byw, newydd , arloesol yn eu hardal leol.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod cafwyd gweithdai i ddysgu am y gerddi, gweithdai celfyddydol yn ymwneud a’r elfen gerddorol o’r Arddorfa, a gweithdai i greu Gwesty Draenog. Maent yn amcangyfrif bod dros 900 o blant wedi cael cyfle rhyngweithiol i ddysgu am ecoleg a bywyd natur ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Wedi’r Eisteddfod, mae pob un cangen yn y dalgylch wedi derbyn darnau o’r ardd i’w ail plannu yn y gymuned, ac o fewn eu hysgolion.
Dywedodd cynrychiolydd ar ran Urdd Gobaith Cymru:
"Mi fydd effaith a bodolaeth y prosiect yma yn cael ei gofio a’i drysori gan y sawl oedd yn cymryd rhan, ac oherwydd ei lwyddiant, y gobaith yw cynnig yr un math o brofiad ar y maes mewn Eisteddfodau’r dyfodol."
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y prosiect ar faes yr Eisteddfod yn 2022, maent wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau ‘Art & Business’ Cymru 2023 yn y categori ‘Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd’. Dymunwn pob lwc iddynt.
I ddarllen mwy am y digwyddiad:
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG