Ysgol Pentrecelyn

Mae Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog wedi ei sefydlu I allu cefnogi cymunedau yr ardal fudd ond hefyd prosiectau gan ysgolion yr ardal.

Yn Rhagfyr 2021 cymeradwyodd y panel gais gan Ysgol Pentrecelyn I adeiladu strwythur amlswyddogaethol gorchuddiedig ar iard yr ysgol.

Fel ysgol wledig fechan Gymraeg gyda 32 o blant, mae ganddynt bolisi giât agored o ran y gymuned yn defnyddio eu cyfleusterau gan nad oes maes chwarae ym mhentrefi Pentrecelyn, Graigfechan na Rhydymeudwy iddynt eu defnyddio.

Bydd yr adnodd yma yn ddefnyddiol iawn I’r ysgol ar gyfer cynnal gwersi tu allan, ond yn fwy na hynny mi fydd yn adnodd lle gall y gymuned ddod I gynnal cyfarfodydd, gweithdai, Ysgol Sul, Cylch ti a fi neu hyd yn oed dod draw I orffwys a mwynhau.

Gobaith yr ysgol ar gymuned yw y byddent yn gallu sefydlu Cylch Meithrin yn yr ysgol, bydd yr adeilad tu allan yma yn adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer gwneud hynny.

Mae hwn yn enghraifft arbennig o brosiect sydd yn dangos ysbryd a chydweithio cymunedol yn sicr. Bu i lawer o’r rhieni wirfoddoli eu hamser i’r prosiect yma. Roedd y gwirfoddolwyr yn weithwyr medrus yn y maes adeiladu ac roedd un gwirfoddolwr wedi darparu cynlluniau pensaerniol i’r cynllun hefyd.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar o’r cymorth. Mae o wedi galluogi ni i greu dosbarth tu allan hyfryd gyda golygfeydd arbennig. Byddwn yn gallu manteisio arno ymhob tywydd. Bydd yn ddefnyddiol iawn i’r gymuned i gynnal cyfarfodydd a lle addas i’r Capel ac yr Ysgol Sul.”

Dywed y Pennaeth Mr Andrew Evans

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397