Clwb Pêl Droed Dinbych

Cysylltodd Clwb Pêl-droed Dinbych â Chronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog am gymorth grant i adnewyddu arwyneb chwarae glaswellt a’r system ddraenio a chreu twll turio ar gyfer defnydd cynaliadwy o’r system chwistrellu newydd. Roedd angen hyn gan fod yr arwyneb presennol yn golygu bod yna gyfnodau mawr, pan nad oedd modd chwarae ar y cae oherwydd y tywydd gwlyb a'r system ddraenio oedd yn ei lle yn un wael.

Ar ôl cael cyllid gan Clocaenog a chwblhau’r gwaith mae Clwb Pêl Droed Dinbych wedi llwyddo i gyrraedd eu holl uchelgeisiau o chwarae pêl-droed di-dor gan dimau’r dynion hŷn, y merched ac wedi gallu agor y cae i adrannau eraill o’r clwb pêl-droed.

Yn ogystal a hyn, cysylltodd FA Cymru â’r Clwb a gofynnwyd iddynt gynnal nifer o gemau rhyngwladol. Ar ddydd Sadwrn 9fed o Ebrill fe wnaethant groesawu tîm dan 16 Brasil a Chymru. Roedd hwn yn llwyddiant ysgubol a denodd dorf leol o wylwyr o dros 1,000 o bobl. Maent hefyd yn croesawu Sbaen a Brasil Dan 16 a Chymru a Sbaen Dan 16.

Dewiswyd aelodau iau’r clwb pêl-droed i fod yn ‘ball boys’ ar gyfer y timau, ac mae’r ymateb ganddynt hwy a’u rhieni wedi bod yn wych.

Mae’r cae a’r gemau hyn wedi rhoi hwb aruthrol i broffil y clwb pêl-droed a’r dref ac ni allant ond gobeithio y bydd yn parhau yn y dyfodol. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru nawr yn siarad â nhw i’w helpu i ariannu ystafelloedd newid newydd, mae'r rhai presennol yn 60 oed ac mae angen dybryd i'w hailadeiladu.

Mae Clocaenog yn falch iawn o allu cefnogi prosiect mor wych ac yn edrych ymlaen at fynychu gêm yn y dyfodol!! Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-droed Tref Dinbych yn eu partneriaethau gyda'r FA Gymreig!!

“Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y cyllid a gawsom i gwblhau’r prosiect.”

Shon Powell

“Roeddwn i’n bresennol yn y gêm ryngwladol dan 16 rhwng Sbaen a Chymru, a hoffwn longyfarch y clwb ar bopeth mae wedi’i gyflawni dros y deuddeg mis diwethaf, roedd y noson hon yn llwyddiant ysgubol i’r dref gyfan ac roedd anhygoel gweld 1,000 o bobl yn y gêm.”

Mark Millar – Cynghorydd Sir

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397