Rhwyfo Cwch Hir Cletaidd

Yn 2018, cynigiodd rhwyfwr brwd sefydlu clwb o Ddeganwy gan ddefnyddio seilwaith Clwb Hwylio Conwy.

Y nod oedd datblygu criw craidd o rwyfwyr o’r un anian a fyddai’n cymryd rhan yn nigwyddiadau rhyng-glybiau Arfordir Cymru yn seiliedig ar y cwch rhwyfo eiconig hwn. Bu’n bleser gan Gronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr ariannu a chaffael cwch newydd a chaniatáu i’r clwb dyfu.

Tua diwedd 2018, roedd grŵp cychwynnol o lond llaw o ddynion ac ambell ddynes o bryd i’w gilydd a fyddai’n mentro allan unwaith neu ddwy yr wythnos. Ym mis Ionawr 2019, cynigiwyd rhwyfo drwy’r grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel rhywbeth gwahanol a allai helpu pobl i gyflawni eu haddunedau Blwyddyn Newydd. Daeth hyn â nifer o ferched newydd i’r clwb. Gan gydnabod hwn fel cyfle, canolbwyntiom ar rwyfo i ferched yn unig a chawsom ganlyniad sylweddol. Drwy gefnogaeth frwd a’r gair yn lledaenu, buan y tyfodd adran y merched i gynnwys dros 40 aelod. Roedd y merched a ymunai mewn amgylchedd diogel ac roeddem yn cynnig rhywbeth i bob oed, profiad a lefel ffitrwydd.

Cyn hir, datblygodd adran y merched rwydweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol a chynhelid sesiynau rheolaidd yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnosau. Pennwyd yr amseroedd er mwyn cyd-fynd â gwahanol anghenion a niferoedd, ond yna cododd problemau o ran gallu. Er mwyn gallu cynyddu nifer y merched wrth y llyw, cynhaliom weithdai a chychwyn rhaglen fentora ac rŵan rydym yn elwa o ganlyniad hyn, sef merched abl a hyderus wrth y llyw.

Mae rhwyfo ar ei orau pan fo’r criw mewn cytgord yn hytrach na mewn cystadleuaeth. Mae’n rhoi llwyfan cadarnhaol gydag adborth uniongyrchol, sy’n addas iawn ar gyfer y gymuned newydd hon. Yn ogystal, mae’r math hwn o rwyfo gyda seddau sefydlog yn caniatáu dull sy’n gwella ffitrwydd a lles meddwl mewn ffordd braf heb fod yn feichus.

“Gosodais i her i mi fy hun, sef dod o hyd i weithgaredd tîm ar y penwythnos. Ym mis Mai 2021, es i allan am y tro cyntaf yn y cwch hir Celtaidd. Wel am brofiad braf! Bellach, mi fydda’ i’n edrych ymlaen at fore Sadwrn drwy’r wythnos. Rydw i’n teimlo’n ddewr, mae’n rhywbeth cyffrous ac rydw i’n rhan o dîm rhwyfo, ia, tîm rhwyfo! Mi fydda i’n dysgu ac yn gwthio fy hun bob wythnos. Mi fydda i’n chwerthin lot, yn myfyrio, yn dod yn nes at natur. Beth well i roi hwb i hyder a lles rhywun?”

Aelod o Glwb Rhwyfo i Ferched Deganwy

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397