Cynyrchiadau Community Heart Productions

Cysylltodd Community Hearts â Chronfa Gymunedol Gwynt Y Môr am gefnogaeth gyda’r prosiect ‘Mwy o  Blastig nag o Bysgod’, menter celf malurion arfordirol / morol sy’n galluogi pobl ifanc i greu celf i godi ymwybyddiaeth o sbwriel traeth. Fe wnaeth y prosiect alluogi casglu plastig o draethau ledled Gogledd Cymru drwy sesiynau casglu sbwriel a glanhau traethau a'i roi drwy broses olchi i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith celf. Gweithdai a dyddiau gweithgarwch sy'n galluogi pobl ifanc i weithio ochr yn ochr â gweithiwr ieuenctid ac artist i ddysgu, tyfu a chyflawni. Bydd gwaith celf a grëir yn cael ei droi’n ddigidol a’i gadw yn barod ar gyfer creu arddangosfa gelf ‘Mwy o  Blastig nag o Bysgod’ yng Nghanolfan Diwylliant Conwy.

Drwy gydol y prosiect bu 8 o sesiynau casglu sbwriel; Llandudno, Talacre a’r Rhyl

Dydd Sul 2il Chwefror - Llandudno 2020

15fed-16eg Chwefror - Talacre

Dydd Sadwrn 22ain Chwefror - Llandudno

Dydd Sadwrn 21ain a 28ain Mawrth - Y Rhyl

Dydd Sadwrn 4ydd Ebrill - Llandudno

Dydd Gwener 8fed Mai - Llandudno

Roedd y sesiynau glanhau traethau yn llwyddiannus gan ddenu rhwng 18 a 42 o bobl bob tro. Roedd y sesiynau glanhau traethau’n ffordd wych o symud plastig o'r lan ac roeddent hefyd yn llwyfan gwych i bontio’r cenedlaethau a dod â phobl at ei gilydd.

Cafwyd cyfanswm o 129 o fagiau o sbwriel o’r traethau. Golchwyd y plastig ar gyfer gwaith celf a chafwyd gwared ar y cynhyrchion na ellir eu defnyddio yn briodol drwy ganolfannau ailgylchu. Mynychodd 63 o unigolion fwy nag un sesiwn glanhau traeth ac roedd 68% o'r rhain o dan 18 oed.

Mae 52 o bobl ifanc wedi bod yn rhan o weithdai celf a digwyddodd hyn cyn i COVID 19 a chyfyngiadau’r cyfnod clo ddod yn broblem. Roedd y gweithgareddau celf i bontio’r cenedlaethau’n boblogaidd a chymerodd 21 o bobl ifanc ran.

Crëwyd cyfrif Instagram am 12 mis o’r enw ‘Mwy o  Blastig nag o Bysgod’ ac fe ddenodd 28k o ddilynwyr a llawer iawn o ddiddordeb. Oherwydd y pandemig daeth yr elfen ddigidol o arddangos gwaith celf yn ganolbwynt.

Mae glanhau traethau wedi dechrau eto nawr bod y cyfyngiadau wedi'u codi. Mae rhai o'r bobl ifanc bellach yn canolbwyntio ar lanhau ger Afon Dyfrdwy ac Aber y Ddyfrdwy.

Roedd Cronfa Gymunedol Gwynt Y Môr yn falch iawn o allu cynorthwyo gydag ariannu'r prosiect ac maent yn falch o weld y prosiect yn ffynnu.

 ‘Mae’r prosiect wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol. Nid yn unig y mae wedi lleihau llygredd ac wedi cael gwared ar blastig a fyddai’n peryglu bywyd morol ond mae hefyd wedi codi ymwybyddiaeth ac yn annog gwirfoddoli, dinasyddiaeth gymunedol a gwarchodaeth arfordirol.’

Lyn Wakefield

‘Fe wnes i gymryd rhan mewn gweithdai celf a sawl sesiwn glanhau traeth. Roedd yn wych gweld pobl o wahanol oedrannau yn gweithio gyda'i gilydd. Roedd pobl yn cefnogi ei gilydd ac roedd pobl oedd yn mynd heibio yn stopio i gymryd rhan. Rydw i’n credu bod y gwaith celf wedi codi llawer iawn o ymwybyddiaeth a bydd glanhau’r traethau’n parhau.’

Ruth F Howells

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397