Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Mae Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn brosiect fferm wynt ar y tir ac yn berchen i RWE. Fe'i hadeiladwyd ar dir a brydlesir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan y prosiect 96MW, ger Dinbych 27 tyrbin gwynt yn y goedwig sydd hefo’r capasiti i gynhyrchu trydan i oddeutu 63,800 o dai yn y DU yn flynyddol1.

1 Mae ynni y rhagwelir y bydd yn cael ei gynhyrchu yn deillio o gyflymder gwynt a gaiff ei fonitro yn yr ardal leol ac ynhgyd â data tywydd hanesyddol gan ddefnyddio modelau meteoroleg gyda data a gafwyd o systemau mesur lloeren, ar yr arwyneb ac a gludir mewn awyren. Mae'r cyfrifiadau'n seiliedig ar gapasiti wedi'i osod o 96MW. Mae cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd blynyddol o drydan fesul cartref o 4100 kWh. Cefnogir y ffigur hwn gan ddata diweddar ar ddefnyddio trydan domestig sydd ar gael gan The Digest of UK Energy Statistics a ffigurau aelwydydd gan Awdurdod Ystadegau Gwladol y DU.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397