ITACA brosiect Glanhau'r Castell

Yn 2020, yng nghanol dechrau pandemig a chyfyngiadau Covid-19 ledled Cymru a thu hwnt, addaswyd gwirfoddoli gan sefydliadau er mwyn gallu parhau i gefnogi cymunedau lleol.

Un sefydliad o'r fath oedd Gweithredu Cymunedol Abergele (ITACA), a gynigiodd brosiect Glanhau'r Castell, yn Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, mewn cydweithrediad â rhai o'i wirfoddolwyr ifanc presennol, a chyflwynodd gais i'r Gronfa Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, i gyflawni hyn.

Roedd y cais yn llwyddiannus a daeth yr aelodau ifanc a oedd yn defnyddio Youth Shedz a gynhaliwyd yn Gweithredu Cymunedol Abergele, nad oeddent wedi cael cyfle i wirfoddoli yn eu cymuned leol o'r blaen, i gymryd rhan hefyd. Roedd o fudd mawr iddynt gydgysylltu ymdrech tîm i wirfoddoli a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.  Roedd arnynt angen cefnogaeth i drefnu a chydgysylltu'r gweithgareddau ond wynebwyd yr her gan fod effaith Covid-19 yn golygu y byddai'r prosiect nawr yn cael ei ohirio.

Gyda'i gilydd, fe wnaethant gyflwyno syniadau newydd i wirfoddoli gan gynnwys gweithgareddau ymarferol y gallai pawb gymryd rhan ynddynt ar ryw lefel neu'i gilydd. Parhaodd y gweithgareddau hyn i fod o fudd nid yn unig i'r gymuned leol ond i'r gwirfoddolwyr ifanc eu hunain, wrth iddynt fynd ati i wella'r parciau a'r gerddi. Datblygodd ymdeimlad o berchnogaeth o’r gymuned leol ond cyfrannodd hefyd at eu hunan-barch, eu hunanhyder a'u hymdeimlad o bwrpas ar adeg pan oedd cymaint o ansicrwydd.

'Fe gefais i groeso mawr ac er fy mod i’n dawel ac yn swil iawn, fe wnes i fwynhau’r gwahanol weithgareddau a gwneud ffrindiau newydd! Gan ddechrau teimlo'n fwy 'normal' ac annibynnol, mae wedi bod yn fwy na dim ond lle hwyliog i fynd, mae wedi bod yn achubiaeth i mi ar gyfer yr hyn all fod yn fywyd anhygoel. Fe wnaeth i mi weld y posibiliadau a gwneud i mi fentro breuddwydio am y dyfodol'.

Aelod ifanc

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397