Prosiect Dwylo Bach
gan Making Sense CIO

Ym mis Rhagfyr 2022 dyfarnwyd £9,920 i Making Sense CIO tuag at eu prosiect Dwylo Bach yn Llanrwst.

Mae Dwylo Bach yn raglen greadigol a deniadol o weithgareddau ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar a'u rhieni/gofalwyr.

Mae sesiynau Dwylo Bach yn orlawn o ddysgu hwyliog ac wedi’u cynllunio i artistiaid bach archwilio eu creadigrwydd mewnol, bod yn chwilfrydig a GWNEUD! Creu amgylchedd a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan raglenni arddangos ein partneriaid creadigol, sy’n synhwyraidd ac yn chwareus i’r teulu cyfan eu mwynhau. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ymgysylltu, dysgu ac ymatebion y blynyddoedd cynnar i gelf a chrefft gyfoes o fewn lleoliad creadigol ac ysbrydoledig; creu ymdeimlad o berthyn i blant a’u teuluoedd mewn sefydliadau diwylliannol ac o fewn y gymuned ehangach.

Nid yw’r sesiynau a ddarparwyd ganddynt yn ‘addysgu’ ond yn hytrach yn cynnig ‘gwahoddiad i chwarae’ – gofod creadigol i artistiaid bach chwarae, archwilio a chael eu hysbrydoli. Darparu sesiynau hyblyg dan arweiniad y plentyn trwy greadigrwydd.

Cymerodd cyfanswm o 276 o blant 0-4 oed a 181 o oedolion ran yn eu sesiynau yn Llanrwst. Buont hefyd yn darparu sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer 3 busnes gwarchod plant, 2 gylch ti a Fi a STAND Gogledd Cymru – cyfanswm o 6 grŵp gyda 12 aelod o staff yn cymryd rhan yn y sesiynau.

Roedd Anna, Twts Crwst yn un o’r gwarchodwr plant a gymrodd ran yn y sesiynnau:

Fel gwarchodwr plant, agorodd y sesiwn fy llygaid i'r hyn y gellir ei wneud yn yr awyr agored, hefyd os oes unrhyw weithgareddau tebyg ar y gweill yn y dyfodol byddaf yn mynychu gyda'r plant. Mae hefyd wedi rhoi’r ysfa i mi fynd â phlant allan yn fwy rheolaidd i ardaloedd awyr agored i wneud gweithgareddau tebyg i hyn ar gyfer y plant yn fy ngofal.

Roedd yn braf gallu cyfathrebu gyda gwarchodwyr eraill oherwydd yr unig dro arall rydyn ni'n cael sgwrs yw yn yr ysgol sydd ddim yn hir.

Mawr obeithiaf y gall tîm Dwylo Bach barhau am flynyddoedd i ddod, rydym ni y gwarchodwyr plant, y plant a rhieni’r plant yn hynod ddiolchgar eu bod yn cynnal sesiynau fel hyn i ni, nid oes llawer o weithgareddau yn yr ardal felly mae cael sesiynau yn hyn. ffordd yn hynod werthfawr i ni.

Roedd y prosiect hefyd yn cynnig cyfle i artist newydd gynorthwyo a chysgodi’r sesiynau i gael mewnwelediad a phrofiad pellach o weithio gyda grwpiau blynyddoedd cynnar. Helpu gweithwyr proffesiynol ifanc i gael gwell dealltwriaeth o ehangder o’r rolau sy’n bodoli ar draws yr economi greadigol a’r llwybrau iddynt yng Nghymru.

Mae Ticky Lowe, Prif Swyddog Gweithredol Making Sense yn dweud:

Mae llwyddiant Dwylo Bach wedi dangos yn glir y galw am y math hwn o raglenni mewn cymunedau gwledig. Mae'r ymateb aruthrol gan gyfranogwyr a sefydliadau dan sylw yn tanlinellu'r angen am gyllid pellach i gefnogi ac ehangu'r fenter bwysig hon. Gyda chefnogaeth barhaus, gall Dwylo Bach barhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau teuluoedd yn Llanrwst a thu hwnt, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer twf, cysylltiad, a chreadigedd.

I ddarllen mwy am eu gwerthusiad o’r prosiect ewch i:

Dwylo Bach | Wales Arts Health & Well-being Network (wahwn.cymru)

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397