Canolfan Addysg Bro Aled
Sefydlwyd Pwyllgor Rheoli Canolfan Addysg Bro Aled pan agorwyd y Ganolfan yn 1967 i drefnu a rhedeg ochr gymunedol y Ganolfan.
Y sialens oedd ceisio ateb gofynion y gwahanol gymdeithasau sydd yn defnyddio y Ganolfan. Yr oedd yr Ysgol Feithrin angen mwy o le ac arbed clirio yn llwyr wedi pob sesiwn . Penderfynwyd ehangu ystafell a chael cyfleusterau addas i blant meithrin a chreu ystafell o faint sylweddol at ddefnydd y gymuned a’r Ysgol Feithrin.
Gan ei fod yn brosiect gweddol fawr rhaid oedd cael caniatad y Cyngor Sir a chynllunwyd y datblygiad mewn dwy ran.
Rhan 1 oedd addasu yr ystafell trwy osod toiledau addas i blant bach ac agor mynedfa i fynd allan yn syth i’r ardal chwarae allanol.
Rhan 2 oedd codi estyniad newydd i’r ystafell.
Cwblhawyd y gwaith mewn ychydig tros flwyddyn trwy gydweithrediad sefydliadau lleol a chefnogaeth grantiau sylweddol.
Y mae yr adnodd newydd wedi creu cryn argraff ar yr holl ddefnyddwyr ac wedi creu Canolfan y gallwn ymfalchio yn yr hyn y mae yn gynnig i gymuned Bro Aled ac ehangach.
Cafwyd cymorth gan Gronfa Y Loteri, Cronfa Melinau Gwynt Brenig ar gyfer rhan 1 a chwta £60,000 trwy CVSC gan gronfa Melin Wynt Clocaenog ar gyfer rhan 2 yn ogystal a chronfeydd lleol.
Sicrhawyd y gefogaeth trwy godi ffôn a thrafod eu dymuniad i wneud cais gyda’r swyddogion grant cyn ei anfon i’w ystyried. Arbedodd hyn lawer o amser a chafwyd arweiniad a chefnogaeth gan y rhai sydd yn gweinyddu y grantiau.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG