Cymorth Sefydliadol a Gwybodaeth Arweiniad

Cefnogaeth ac arweiniad i’ch corff

Mae gweithredu gwirfoddol a chymunedol yn ymwneud â chreu cymunedau gweithgar a chynaliadwy a sicrhau bod gan eich cymuned lais. Oes gan eich cymuned neu gorff syniad ar gyfer prosiect ond nid yw’n siŵr beth i’w wneud nesaf?

Mae cymorth ac arweiniad ar gael AM DDIM gan CGGC a gall eich helpu chi a’ch cymuned i ddatblygu’r syniadau hyn ar gyfer prosiectau newydd drwy wneud y canlynol -

  • Cynghori ynghylch y broses o greu grŵp newydd gyda’r holl anghenion sy’n gysylltiedig â phwyllgor newydd

  • Creu cyfansoddiad/dogfen lywodraethol ar gyfer grŵp newydd neu fwrw golwg dros un sydd eisoes yn bodoli

  • Cofrestru fel elusen, os yn briodol

  • Trafod eich syniad a dechrau ei ddatblygu er mwyn paratoi ar gyfer ceisiadau grant os oes angen

  • Trafod y polisïau a allai fod o ddiddordeb i’ch grŵp eu mabwysiadu e.e. polisi Iaith Gymraeg neu bolisi Cyfle Cyfartal

  • Cynnig cefnogaeth gyffredinol wrth i chi symud ymlaen a throi syniad yn brosiect go iawn

 

Pan rydych yn ystyried sefydlu grŵp neu sefydliad newydd mae opsiynau gwahanol ar gael i chi, yn dibynnu ar yr hyn mae'r grŵp yn gobeithio ei gyflawni. A fydd eich grŵp / sefydliad yn fach ac yn anffurfiol? Neu oes gennych chi gynlluniau mawr ac a fydd angen i chi ddatblygu a rheoli arian mawr iawn?

Edrychwch ar y fideo cyflwyniadol isod, sy'n helpu i esbonio'r gwahanol opsiynau hyn, a hefyd y manteision a'r anfanteision. Cofiwch gysylltu â ni os oes arnoch chi angen mwy o wybodaeth neu pan fyddwch yn barod i symud pethau ymlaen.

Cerdd ©Rafael Krux via Canva.com

Gyda diolch i PAVO

Gallwn hefyd helpu gyda’r canlynol:

  • Cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi lleol a chost isel

  • Recriwtio gwirfoddolwyr i ddatblygu eich syniad

  • Darparu ffynonellau gwybodaeth

  • Sicrhau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo eich grŵp

Dylech hefyd ystyried ymaelodi fel corff. Chi fydd y cyntaf i gael ein cylchgronau a’n cylchlythyrau e-bost. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma

 

Darpariaeth Gwasanaeth Dwyieithog

Gall eich sefydliad elwa o weithio’n ddwyieithog: Hybu cydraddoldeb a chael eich adnabod fel esiampl arfer da Cynyddu eich proffil cyhoeddus Ehangu cefnogaeth ariannol ac ymarferol i’ch gwaith Cryfhau eich apêl i wirfoddolwyr a staff dwyiethog Cynnig...

Parhau i Ddarllen

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397