AMDANOM NI

Croeso i Dîm Gwirfoddoli CGGC!

Os ydych chi eisiau gwirfoddoli neu’n sefydliad sydd eisiau recriwtio gwirfoddolwyr, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Rydyn ni’n adnodd un stop ar gyfer popeth sy’n ymwneud â gwirfoddoli!

Eisiau Gwirfoddoli –

  • Ddim yn siŵr pa fath o wirfoddoli rydych chi eisiau ei wneud?
  • Eisiau profiad perthnasol ar gyfer eich CV?
  • Eisiau cymdeithasu a chael ychydig o hwyl?
  • Angen dysgu sgiliau newydd?
  • Meddwl am newid gyrfa neu eisiau dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch? 

Gwirfoddoli yw’r ateb i chi efallai! Edrychwch ar ein tudalen Eisiau Gwirfoddoli am fwy o syniadau a sut gallwn ni helpu i’ch cyfateb chi i’r cyfle gwirfoddoli priodol.

Cynnwys Gwirfoddolwyr –

Gall Tîm Gwirfoddoli CGGC eich cefnogi chi a’ch sefydliad i gynnwys a rheoli gwirfoddolwyr yn ddiogel ac yn effeithiol. Gallwn hybu eich cyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â dod o hyd i wirfoddolwyr posib sydd wedi dangos diddordeb, a’u cyfeirio atoch chi. Hefyd gallwn eich helpu chi gydag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau fydd arnoch eu hangen.

Edrychwch ar ein tudalen Recriwtio Gwirfoddolwyr i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cefnogi.  

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397