Cynllun Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid Conwy 2020/2021
Nod y cynllun Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid yw cefnogi prosiectau bach dan arweiniad ieuenctid ledled sir Conwy, gan alluogi pobl ifanc i chwarae rôl weithredol yn eu cymunedau a chynnwys / recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli.
Mae’r ceisiadau’n cael eu dewis a’u hargymell gan banel o bobl ifanc 14 i 25 oed. Mae grantiau o hyd at £1000 ar gael i gefnogi gwirfoddoli neu i sefydlu gweithgarwch gwirfoddoli.
Mae’r panel ieuenctid yn teimlo’n angerddol am y problemau mae pobl ifanc yn eu profi ac mae eisiau sicrhau ei fod yn cyllido’r prosiectau priodol. Mae wedi galluogi CGGC i hybu’r gwerth rydyn ni’n ei deimlo sy’n dod o gael gwirfoddolwyr ifanc ac mae wedi datblygu’r berthynas fwy fyth gyda sefydliadau sy’n teimlo’n angerddol am hybu cyfleoedd gwirfoddoli i ieuenctid.