Gwynt Y Môr – Cwestiynau Cyffredin

Pam mae CVSC yn rheoli’r gronfa hon a’r fferm wynt yn eiddo i RWE?

Mae CVSC yn gwbl annibynnol ar RWE ac unrhyw faterion sy’n gwrthdaro. Hefyd CVSC yw llais swyddogol y trydydd sector yng Nghonwy, fel CGGD a CGSFf yn eu siroedd hwy. Mae gan CVSC wybodaeth, profiad a chysylltiadau eang ledled y sector gwirfoddol ac mae mewn sefyllfa dda iawn i weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol. Hefyd mae ganddo brofiad o reoli grantiau cymunedol o’r math yma.         

Ai grantiau cyfalaf neu refeniw fydd y rhain?

Y ddau.

Pwy fydd yn gymwys i ymgeisio?

Grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn yr ardal fantais benodol yn y 3 sir, sef Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

A fydd raid i ymgeiswyr ddarparu isafswm o gyllid cyfatebol?

Na fydd. Fodd bynnag, efallai y caiff unrhyw geisiadau sydd â chyllid cyfatebol sgôr uwch fel rhan o’r broses asesu.

A fydd posib cael ffurflenni a chyngor yn y Gymraeg?

Bydd. Bydd yr holl weithdrefnau / ffurflenni ar gyfer gweinyddu’r grantiau’n ddwyieithog a bydd staff sy’n siarad Cymraeg wrth law.               

Faint fydd raid i ni ei aros o’r dechrau i’r diwedd?

Mae’n dibynnu ar nifer o bethau; pa mor rhagweithiol yw’r ymgeisydd, pa mor fawr a chymhleth yw’r prosiect, faint o gyllid sydd ei angen, pa ganiatâd sydd ei angen.         

Pwy fydd yn penderfynu pa geisiadau am grant sy’n llwyddiannus?

Byddwn yn dod ag unigolion cymwys a/neu brofiadol addas at ei gilydd o’r ardal fantais i lunio panel(au) grant.                                                                        

Pryd fydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Bydd y panel grantiau’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 3 diwrnod i’r cyfarfod.

Ble mae cael rhagor o wybodaeth?

Bydd gennym dudalen benodol ar gyfer Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Gwynt y Môr ar ein gwefan:

www.gwyntymorfund.cymru

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397