Gwirfoddolwyr Ifanc - Cymryd Rhan!

Cymryd rhan!

Cyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl wrth helpu yn eich cymuned!

Gwyliwch ein fideos isod, i weld sut gallech chi elwa, a ffoniwch ni ar 01492 534091 neu anfon e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gael gwybod mwy…

Fe allwch chi fod yn ymddiriedolwr ifanc hyd yn oed - Pecyn adnoddau ar gyfer ymddiriedolwyr ifanc

Helo, Teigan Crees-Jones ydw i ac rydw i’n aelod o Banel Grantiau Dan Arweiniad Leuenctid Conwy CGGC. Mae’n bedwaredd blwyddyn i mi fod ar y panel nawr ac, yn ystod yr amser hwnnw, rydw i wedi cyfarfod a helpu cymaint o bobl ifanc i gyflawni cyfraniadau anhygoel at ein cymuned ni drwy wirfoddoli fel ieuenctid a’r arian grant rydyn ni fel panel wedi ei roi iddyn nhw. 

Mae gwirfoddoli gyda’r Panel Ieuenctid wedi bod yn beth grêt i mi ei wneud a chymryd rhan ynddo. Mae wedi gwella fy hyder i a fy helpu i benderfynu pa lwybr oeddwn i eisiau ei ddilyn yn fy astudiaethau safon uwch. Mae Astudiaethau Busnes yn rhywbeth wnes i ddim ei wneud tan TGAU, ond gyda fy nghefndir i o’r panel ac adolygu a dysgu am achosion busnes prosiectau, roeddwn i’n teimlo’n hyderus i ddilyn y cwrs yma i safon uwch. Rydw i wir yn mwynhau’r pwnc ac a dweud y gwir, heb fod ar y panel, ’fyddwn i heb ystyried y pwnc fel opsiwn!                 

Y llynedd fe wnaethon ni roi cyfran o’r arian grant i Youth Shedz i drefnu eu lansiad eu hunain ar gyfer Youth Shedz a diwrnod rhyngweithio. Arweiniodd y gwirfoddolwyr ifanc bob agwedd ar y lansiad/digwyddiad rhwydweithio o’r dechrau i’r diwedd ac roedd y digwyddiad ar 10fed Hydref 2019 yn llwyddiant enfawr gyda mwy na 100 o bobl yn bresennol ac mae rhai o’r bobl hynny, hen ac ifanc, yn gwirfoddoli gyda nhw nawr.

Da Iawn, Youth Shedz!                   Youth Shedz cake

"Rydych chi’n creu bywoliaeth allan o beth rydych chi’n ei gael ond yn creu bywyd allan o beth rydych chi’n ei roi”

 Winston Churchill

 

 

 

 

 

 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397