Nodau'r prosiect Cerrig Camu oedd sicrhau bod lefel uchel o wasanaeth parhaus yn cael ei ddarparu'n ddiogel i'r dynion a'r merched sy’n cael eu cefnogi gan Cerrig Camu Gogledd Cymru yn ystod y pandemig yma a thu hwnt.

Gyda dyfodiad pandemig COVID, yn sydyn roedd angen i Cerrig Camu ailfeddwl ac addasu'r ffordd roeddent yn gweithio a'r ffordd roeddent yn darparu eu gwasanaethau arbenigol i'r bobl agored i niwed maen nhw’n eu cefnogi yn y cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Yn Cerrig Camu Gogledd Cymru roedd mwyafrif ein cefnogaeth yn gwnsela wyneb yn wyneb, eiriolaeth a chymorth i deuluoedd fel arfer ac roedd hyn yn cael ei ddarparu mewn ystafelloedd cwnsela ledled Gogledd Cymru gyfan.

Fe wnaethom ni addasu'r ffordd roeddem yn gweithio’n gyflym iawn gan gysylltu â'n holl gleientiaid a chynnig dulliau amgen o gefnogaeth. Mae llawer o'r dynion a'r merched rydyn ni'n eu cefnogi yn dioddef gydag iechyd meddwl gwael, gorbryder, diffyg hunan-barch ac ynysu a gwelwyd hyn yn cynyddu fwy fyth yn ystod yr argyfwng yma, ac roedd rhaid i ni weithredu'n gyflym.

Rydym bellach yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth, o gwnsela rhithwir i siarad dros y ffôn, negeseuon testun, testunau lles a phecynnau gweithgarwch ar gyfer lles, a hefyd cylchlythyr, tudalen Facebook bwrpasol i gleientiaid gael mynediad at newyddion, dolenni gwybodaeth a chymorth, parseli bwyd a danfon presgripsiynau, a’r cyfan yn cael ei ddarparu'n bennaf gan staff a chwnselwyr yn gweithio gartref yn teithio ar eu pen eu hunain neu wedi'u hynysu mewn adeiladau.

Ar ôl cyllid gan Gwynt Y Môr am y swm o £4,290.00 ar gyfer y ffobiau Solo Protect wedi ein galluogi ni yn ystod y deuddeg mis diwethaf i ddarparu'r holl wasanaethau hyn yn ddiogel ac er budd pawb rydyn ni’n eu cefnogi. Bydd diogelwch, gwarchodaeth a chefnogaeth drwy'r ffobiau personol yn parhau ymhell ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben ac yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl.

Mae’r gefnogaeth gan Gronfa Fuddsoddi Gwynt y Môr i Cerrig Camu Gogledd Cymru drwy alluogi prynu 20 ffob Diogelwch / Amddiffyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n staff, cwnselwyr, goruchwylwyr, a chleientiaid. Mae Cerrig Camu yn darparu cwnsela a chefnogaeth broffesiynol i oedolion sy'n goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod ac effeithiau trawma'r cam-drin maent yn ei ddioddef.

Yn ystod argyfwng COVID roedd angen i'n helusen addasu'r ffordd roeddem yn cynnig ein gwasanaethau yn gyflym, roedd yn rhaid i'n cefnogaeth wyneb yn wyneb arferol ledled chwe sir Gogledd Cymru ddod i ben. Mae'r ffobiau'n darparu achubiaeth o ddiogelwch ac amddiffyn i gwnselwyr a staff sy'n gweithio ar eu pen eu hunain mewn adeiladau nad ydynt, yn ystod COVID, wedi cynnwys fawr ddim staff cymorth arferol, os o gwbl, gan alluogi unigolion i gael cyswllt uniongyrchol â system gymorth Solo Protect, lle gallant gael help 24 awr y dydd drwy wasgu botwm ar eu ffobiau diogelwch personol.

Mae pob ffob personol yn cynnwys manylion yr unigolyn sy'n defnyddio'r ffob, yr ardal mae'n gweithio ynddi, unrhyw wybodaeth feddygol i fod yn ymwybodol ohoni a chyswllt uwchgyfeirio mewn argyfwng. Mae'r gwahaniaeth o ran gallu cael cymorth meddygol brys, gan gynnwys “ymateb person ar lawr” mewn achos o lithro, baglu neu godwm, a hefyd mynediad at ymateb cyflym a chymorth diogelwch yn ystod pennod drawmatig gyda chleient a chlust i wrando pan fydd rhywun ar ei ben ei hun mewn adeilad wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae holl Dîm Cerrig Camu yn dweud eu bod bellach yn teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth, yn llai ynysig ac yn llai pryderus. Bydd y ffobiau'n parhau i ddarparu diogelwch ac amddiffyn nawr ac ymhell i'r dyfodol gan alluogi mynediad cyson, parhaus a chefnogaeth hanfodol i staff, cwnselwyr, gwirfoddolwyr a'r goroeswyr rydyn ni'n eu cefnogi wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yn ein cymuned. Diolch yn fawr

Shirley McCann Rheolwr Prosiect

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397