Age Connects Canol Gogledd Cymru

Mae ACNWC yn elusen gofrestredig sy'n gweithio i gefnogi a hyrwyddo hawliau pobl hŷn ar draws siroedd Conwy a Sir Ddinbych.

Fel rhan o brosiect y Fforwm Pobl Hŷn, mae Age Connects yn cynhyrchu cylchlythyr bob deufis i'r aelodau. Cylchlythyr anffurfiol 2 dudalen yw hwn sy’n cael ei anfon at y 107 o aelodau ar draws sir Conwy.

Oherwydd pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol dilynol, gwelodd Age Connects NWC angen am gylchlythyr wythnosol i bobl hŷn nad oeddent yn defnyddio'r rhyngrwyd nac yn defnyddio gwasanaethau ffrydio, i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfeirio cyfredol a manwl gywir ar gyfer y rhai oedd yn hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain.  

Cynyddodd hyd y cylchlythyr o 2 i 10 tudalen, ac mae’n cael ei argraffu mewn lliw.  Roedd Gwynt y Môr yn falch o ariannu'r swm o £3,334.06 i helpu gyda chostau dosbarthu ac argraffu.

Edrychwch ar y fideo isod am feddyliau aelod sy’n derbyn y cylchlythyr:

*Fideos ar gael yn Saesneg yn unig


Nid yn unig y mae Cylchlythyr Age Connects wedi bod yn help i'w aelodau, ond hefyd mae wedi bod yn help enfawr i staff CGGC.  Yn anterth y pandemig, cyfeiriodd staff CGGC yn aml at y cylchlythyr am gymorth gydag ymholiadau cymhleth.

Mae CGGC yn falch o arddangos y cylchlythyrau ar ein tudalen gymorth COVID-19 bwrpasol i ddefnyddwyr eu lawrlwytho am ddim.  Cefnogwr enfawr arall i'r cylchlythyr fu'r gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi canfod bod y cylchlythyr yn amhrisiadwy. 

Edrychwch ar y fideo isod gan Megan Vickery (Swyddog Ymgysylltu'r Bwrdd Iechyd ar gyfer Conwy) a'i meddyliau am y cylchlythyr.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397