RNLI (Gorsaf Bad Achub y Rhyl)

Ar ddechrau pandemig COVID-19, cysylltodd Gorsaf Bad Achub y Rhyl â Gwynt y Môr am gyllid posibl ar gyfer PPE (Cyfarpar Diogelu Personol) i’w gwirfoddolwyr hanfodol. Gyda'r swm o £2,000 a ddyfarnwyd gan Gwynt y Môr darparwyd PPE i'r holl staff, aelodau criw y bad achub a gwirfoddolwyr hanfodol yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl yn ystod gweithgarwch cysylltiedig â'r orsaf, e.e. achub, hyfforddi, rheolaeth weithredol a glanhau.

Diolch i’r PPE a dderbyniwyd, roedd posib i Orsaf Bad Achub y Rhyl a’r criw barhau i fod yn gwbl weithredol a chynnal gwasanaeth chwilio ac achub 24 awr drwy gydol 2020. Lansiwyd eu Bad Achub Pob Tywydd dosbarth Shannon Anthony Kenneth Heard 17 o weithiau, gan helpu 8 o bobl a fyddai wedi bod mewn perygl difrifol fel arall. Lansiodd y criw hefyd eu Bad Achub Mewndirol dosbarth D Mary Maxwell 40 o weithiau, gan helpu 23 o bobl mewn argyfwng. Heb y PPE i amddiffyn ein criw a'r bobl wedi anafu, ni fyddem wedi gallu lansio i helpu'r bobl yma mewn angen. Helpodd eich cefnogaeth chi i gadw'r gwasanaeth yn gweithredu.

Darparwyd PPE i'r holl unigolion oedd wedi anafu a’r rhai a achubwyd, gan gynnwys masgiau wyneb a menig. Roedd cadw pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal pan oedd hynny’n bosib, yn enwedig ar fad achub mwy Shannon, ond yn anochel roedd y criwiau a'r cyhoedd yn agos at ei gilydd wrth achub o'r dŵr ac ar fwrdd y bad achub llai. Roedd y PPE yn cynyddu lefel yr amddiffyniad i'r unigolion a achubwyd a'r criw.


"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Buddsoddi Cymunedol Gwynt y Môr am eu cefnogaeth i ariannu ein PPE yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i ni ac mae wedi bod yn wych gweld y gefnogaeth gan y Gronfa a'r gymuned ehangach pan oedden ni mewn angen mwyaf. Ar ran aelodau'r criw gwirfoddol yn y Rhyl, diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth hael.

Gyda'ch cefnogaeth chi, roedd y criw yn gallu parhau i weithredu eu badau achub drwy gydol y pandemig, gan lansio i helpu pobl mewn helynt ar y môr. Lansiodd y criw ei fadau achub Mary Maxwell ac Anthony Kenneth Heard gyfanswm o 57 o weithiau yn 2020, gan helpu 31 o bobl a fyddai wedi bod mewn perygl difrifol fel arall.

Wrth i’r cyfyngiadau lacio dros yr haf y llynedd, heidiodd miloedd i'r arfordir i wneud y gorau o'r tywydd cynhesach. Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y galwadau i fadau achub ledled y DU ac Iwerddon, a chafodd y Rhyl dymor prysur. Er gwaethaf risg ychwanegol Covid-19, parhaodd ein gwirfoddolwyr ni’n ymroddedig a chanolbwyntio ar achub bywydau ar y môr. Yn dilyn galwad at ddau berson mewn dingi fach heb injan oddi ar Fae Cinmel ym mis Mehefin 2020, dywedodd Martin Jones, Llywiwr Bad Achub y Rhyl: 'Rydyn ni bob amser yn argymell bod pobl yn edrych ar ragolygon y tywydd cyn mynd allan i'r môr. Mae ein criw ni wedi bod ar alwad drwy'r cyfyngiadau symud ac maen nhw bob amser yn barod i ymateb i unrhyw sefyllfa. Oherwydd maint y Badau Achub Mewndirol, roedd y criw yn gwisgo PPE llawn a masgiau wyneb yn ystod yr alwad, gan nad oedd cadw pellter cymdeithasol yn bosib'. 

Gallwch ddarllen mwy am griw bad achub y Rhyl yn achub pobl yma:  https://rnli.org/find-my-nearest/lifeboat-stations/rhyl-lifeboat-station/news-and-media-rhyl

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397