Ymaelodu
Yn awyddus i ddod yn aelod o Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy?
Yn ystod y cyfnod digynsail a heriol yma, mae CGGC yma o hyd i’ch cefnogi chi a’ch sefydliad yn llawn. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn ildio ein ffioedd aelodaeth ar gyfer 2020/21 i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn ein gwybodaeth aelodaeth flaenoriaeth, a'r cyfarwyddyd a’r cyfleoedd cyllido, yn gwbl hwylus.
Felly, yn syml, byddwn yn cario eich aelodaeth drosodd, ond rydym yn gofyn i chi anfon eich gwybodaeth gyswllt ddiweddaraf atom ni – fel bod y person cywir wedyn yn gallu rhaeadru’r wybodaeth i bobl eraill yn briodol – a hefyd fel ein bod yn gallu tynnu gyda’n gilydd a chefnogi defnyddwyr ein gwasanaeth hyd eithaf ein gallu.
Anfonwn ein dymuniadau gorau un atoch chi i gyd gan dîm CGGC – cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
Hoffwn eich gwahodd i fod yn aelod o Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yw'r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol ar gyfer y Sir.
Mae manteision dod yn aelod yn cynnwys y gwasanaethau canlynol AM DDIM:
- Blaenoriaethu Gwasanaeth Gwybodaeth Ariannu, gan gynnwys ymgysylltu 1 i 1 â chyllidwyr.
- Mynediad am ddim at gronfa ddata unigryw, gynhwysfawr.
- Hysbysebu eich holl ddigwyddiadau a swyddi gwag drwy ein systemau cyfryngau cymdeithasol
- Adnoddau sy'n gallu cefnogi eich gweithgareddau, e.e. gazebo, potiau pwmp, system y P.A, (i enwi ond ychydig).
- Mynediad at gyrsiau hyfforddi o safon.
- Cylchgronau ac e-fwletinau rheolaidd.
- Gwahoddiad i gyfarfod cyffredinol CGGC a hawliau pleidleisio.
- Mynediad at rwydweithiau CGGC. Cyfle i chi ymgysylltu â chydweithwyr mewn sefydliadau yn y trydydd sector, a dylanwadu ar gyrff staturory a chraffu ar wasanaethau cyhoeddus.
- Cymorth i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
- Adolygu eich dogfennau a'ch polisïau llywodraethu (ar gais)