Cymuned yn cyllido teclyn achub bywyd newydd yng Nghraig-y-Don

Mae prosiect cymunedol i osod diffibriliwr y tu allan i orsaf bad achub yr RNLI yng Nghraig y Don, Llandudno, wedi dwyn ffrwyth ar ôl misoedd lawer o gynllunio a chodi arian.

 RNLI

Cysylltwyd â'r RNLI i gefnogi'r prosiect cymunedol ar ôl i orsaf y bad achub gael ei nodi fel lleoliad allweddol yn yr ardal. Wedi'i lleoli ar draeth y gogledd Llandudno, mae'n fan poblogaidd i bobl sy’n mwynhau mynd ar y traeth, caiacwyr, cerddwyr, pysgotwyr a nofwyr. Mae'r adeilad hefyd wedi'i leoli wrth ymyl pwll padlo poblogaidd i blant. Hefyd mae'r orsaf bad achub ei hun wedi dod yn fagned i ymwelwyr ers iddi gael ei chwblhau ym mis Awst 2017.

Dywedodd Alun Pari Huws, cydlynydd y cynllun a Dirprwy Awdurdod Lansio gydag RNLI Llandudno:

"Rydw i wrth fy modd bod yr RNLI wedi bod yn gefnogol i'r prosiect cymunedol yma sydd wedi bod yn ymdrech tîm gwych yn cynnwys Llewod Llandudno, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gogledd Cymru, cydweithwyr yn yr RNLI a chefnogaeth gan Graham Woodyat, swyddog ymladd tân lleol a gweithiwr siop. Diolch hefyd i Martin Fagan yn Ymddiriedolaeth Gymunedol Heartbeat, cyflenwyr y teclyn, am ei gymorth.

“Diolch yn arbennig i Gronfa Gymunedol Gwynt-y-Môr, Co-Op Craig-y-Don, noddwyr o dafarn Cross Keys, Penrhynside, CCTV Services Ltd a thri unigolyn preifat sydd wedi ariannu'r prosiect.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397