Cynllun Car Cymunedol Conwy Wledig - Car y Llan
Roedd posib i Geraint Davies o CGGC, ar y cyd â'n Cynllun Car Cymunedol Conwy Wledig - Car y Llan, gynorthwyo yn y digwyddiad 'brechu torfol' yn Llandudno.
gan gludo ein haelodau mwy profiadol o gymdeithas a chleifion bregus i/o'u cartref i'r ganolfan frechu fel eu bod yn gallu cael eu brechiad covid-19. Oherwydd yr amodau gyrru anodd a'r eira, roedd y diwrnod yn heriol iawn ac yn waeth oherwydd bod tacsis a bysiau wedi'u canslo. Yn gyffredinol, fodd bynnag, roedd y digwyddiad yn eithriadol lwyddiannus gyda bron i 1000 arall o bobl yn cael eu brechiad cyntaf. Gyda llawer o ddiolch i #sefydliadstevemorgan a #cronfagymunedolyloteri am fod mor garedig yn cefnogi'r cynllun, gan sicrhau effaith uniongyrchol mor bositif ar les ein cymunedau.