Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghonwy yn enfawr – mae tua 3200 o grwpiau a sefydliadau yn gweithredu yn y sir. Mae llawer, neu’r rhan fwyaf, o’r rhain yn gallu cynnig ymateb i faterion iechyd a lles, yn amrywio o elusennau â’u ffocws ar gyflyrau meddygol i grwpiau ffocws cymunedol lleol sydd wedi’u sefydlu i gefnogi anghenion sydd wedi’u datgan yn eu maes gweithredu.

Cydnabyddir yn eang bod dod o hyd i elusen, grŵp neu wasanaeth cefnogi priodol yn gallu bod yn heriol iawn ac, o’r herwydd, mae cefnogaeth benodol wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo gyda chanfod pawb yn y sector.

Mae’r rhestr ganlynol yn dangos y gefnogaeth sydd ar gael i chi, os ydych eisiau cefnogaeth leol gan sefydliad neu grŵp yn y sector gwirfoddol:      

  • https://en.infoengine.cymru/ - cyfeirlyfr o wasanaethau wedi’i greu gan y sector gwirfoddol.
  • https://www.dewis.wales/ - cyfeirlyfr arall o wasanaethau wedi’i greu gan y sector statudol. Mae Infoengine a Dewis yn rhannu eu data.
  • Gwasanaeth Llywio Cymunedol Gorllewin Conwy – gwasanaeth llywio lleol a sefydlwyd gan Glwstwr Gorllewin Conwy ac yn cynnwys y 12 meddygfa sy’n gofalu am gymunedau Bae Penrhyn, Llandudno, Llanfairfechan, Conwy, Llanrwst, Betws y Coed a Cherrigydrudion. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth hwn drwy eich meddygfa neu yn uniongyrchol drwy:

Rhif Ffôn: 01492 817121

E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

  • Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy – y Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Nghonwy (edrychwch ar yr wybodaeth isod am grynodeb manylach)

Rhif Ffôn: 01492 534091

E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae gan bob sir yng Nghymru gorff seilwaith y sector gwirfoddol (sy’n cael ei alw’n drydydd sector hefyd), sy’n cael ei alw yn gyffredinol yn Gyngor Gwirfoddol Sirol neu CGS. Yn sir Conwy, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol. Fe’i sefydlwyd yn 1997 a’i rôl allweddol yw darparu gwybodaeth a chefnogaeth i grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol am wirfoddoli, ffynonellau cyllido ac amrywiaeth eang o faterion eraill, fel y canlynol:

Llywodraethu:

  • Sefydlu syniadau newydd a grwpiau newydd
  • Cyfarwyddyd ar gael y pwyllgor newydd at ei gilydd
  • Cynorthwyo gyda strwythurau cyfreithiol, polisïau a gweithdrefnau
  • Cynghori ar sicrwydd ansawdd

Hyfforddiant:

  • Hyfforddi staff CGGC i ddarparu                  
  • Mynediad a chyfeirio at gyfleoedd    
  • Darparu ar y cyd â darparwyr eraill

Cyllid:

  • Gwybodaeth a chyngor am gyllid
  • Chwilio am gyllid – porthol ar-lein newydd
  • Cymorthfeydd cyllid
  • Gweinyddu a dosbarthu grantiau

Gwybodaeth:

  • Taflenni gwybodaeth
  • Gwasanaeth gwybodaeth ar e-bost
  • Gwefan
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Allgymorth
  • Rhwydweithiau

Gwirfoddoli:

  • Recriwtio  
  • Cyfeirio
  • Lleoliadau
  • Rheoli gwirfoddolwyr
  • Ymarfer yr hyn rydyn ni’n ei bregethu!

‘Mae gwirfoddoli yn fynegiant pwysig ar ddinasyddiaeth ac yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth. Mae’n ymrwymiad o amser ac egni er budd cymdeithas a’r gymuned a gall fod ar sawl ffurf. Mae’n cael ei wneud o ddewis ac yn rhydd, heb bryder am fudd ariannol.’

Y Cynlluniau Presennol (ychwanegol) sy’n cael eu cyflwyno gan CGGC:

  • Llywio Cymunedol  
  • Cronfa Buddiannau Cymunedol Gwynt y Môr
  • Cronfa Buddiannau Cymunedol Gwastadeddau’r Rhyl
  • Cronfa Buddiannau Cymunedol Clocaenog
  • Cynllun Trafnidiaeth Gymunedol Car y Llan (Betws y Coed a Cherrigydrudion)
  • Hwyluso Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cyswllt y Sector Gwirfoddol

Rhwydweithio:

  • Rhwydwaith Iechyd a Lles Gwirfoddol Conwy
  • Rhwydwaith Trefnyddion Gwirfoddol
  • Rhwydwaith Aelodau CGGC
  • Grŵp Ymgysylltu’r Trydydd Sector
  • Partneriaeth y Trydydd Sector

Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) yw’r prif sefydliad yng Nghonwy i gynorthwyo gydag unrhyw beth perthnasol i’r sector gwirfoddol / trydydd sector.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397